Y Canghellor yn darparu diogelwch ac adnewyddiad cenedlaethol i Gymru
Mae’r Canghellor yn addo creu “cyfnod newydd o ddiogelwch ac adnewyddiad cenedlaethol” wrth iddi gyflwyno Datganiad y Gwanwyn i hybu twf economaidd.

- Mae’r Canghellor yn addo creu “cyfnod newydd o ddiogelwch ac adnewyddiad cenedlaethol” wrth iddi gyflwyno Datganiad y Gwanwyn i hybu twf economaidd, diogelu pobl sy’n gweithio a chadw Prydain yn ddiogel.
- Ar gyfartaledd, bydd pobl ledled y DU £500 y flwyddyn yn well eu byd erbyn diwedd tymor y senedd hon o’u cymharu ag o dan y llywodraeth flaenorol, gan roi mwy o arian ym mhocedi pobl.
- Mae twf wrth galon y Cynllun ar gyfer Newid, a gall Prydain ddechrau adeiladu diolch i’r dyraniad gwariant cyfalaf ychwanegol gwerth £13 biliwn, ochr yn ochr â £2.2 biliwn o gyllid ar gyfer amddiffyn y flwyddyn nesaf.
Ar gyfartaledd, bydd pobl ledled y DU £500 yn well eu byd o 2029, o’i gymharu â rhagolwg yr hydref yr OBR, gan helpu i gyflawni’r Cynllun ar gyfer Newid, wrth i’r Canghellor gyhoeddi Ddatganiad y Gwanwyn heddiw (dydd Mercher 26 Mawrth) sy’n manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael mewn byd sy’n newid.
Cadarnhaodd yr OBR hefyd fod disgwyl i economi’r DU dyfu’n gyflymach na’r disgwyl o 2026 ymlaen ac y bydd yn uwch na’r hyn a nodwyd yn eu rhagolwg yr hydref erbyn 2029 – gan godi i 9.5% o’i gymharu â 9.2%.
Nododd y Canghellor sut mae’r llywodraeth yn gwarchod diogelwch gwladol ac yn manteisio i’r eithaf ar botensial sector amddiffyn y DU ar gyfer twf drwy gadarnhau y bydd cynnydd o £2.2 biliwn yng nghyllideb amddiffyn y DU gyfan yn 2025-26.
Mae Datganiad y Gwanwyn yn cyflawni cynlluniau gwariant Llywodraeth y DU sy’n canolbwyntio ar ei hamcanion craidd, sef dod â sicrwydd a sefydlogrwydd i bobl sy’n gweithio ledled y DU.
Mae’n dilyn y Gyllideb yn yr hydref lle cyhoeddodd y Canghellor y bydd Llywodraeth Cymru yn cael setliad o £21 biliwn yn 2025/26 – y mwyaf mewn termau real yn hanes datganoli. Mae hyn yn cynnwys £1.7 biliwn yn ychwanegol drwy fformiwla Barnett, gyda £1.5 biliwn ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd a £250 miliwn ar gyfer buddsoddiad cyfalaf.
Mae’r mesurau a gymerwyd heddiw yn golygu cynnydd pellach o £16 miliwn drwy symiau canlyniadol o dan Barnett yn 2025/26. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gael dros 2.0% yn fwy y pen na gwariant cyfatebol Llywodraeth y DU yng ngweddill y DU, sy’n golygu £4 biliwn yn fwy yn 2025-26.
Bydd cyllid grant bloc Llywodraeth Cymru o 2026-27 ymlaen yn cael ei gadarnhau yng Ngham 2 yr Adolygiad o Wariant, sy’n dod i ben ar 11 Mehefin 2025. Bydd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn cwrdd â’i gymheiriaid o’r llywodraethau datganoledig i drafod eu blaenoriaethau cyn i’r adolygiad gael ei gwblhau.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Datganiad y Gwanwyn heddiw yn mynd ymhellach ac yn mynd ati’n gyflymach i sicrhau twf economaidd, diogelwch cenedlaethol ac adnewyddu ledled Cymru a gweddill y DU.
Drwy gywiro sylfeini ein heconomi, rydyn ni eisoes wedi dechrau cyflawni’r newid y pleidleisiodd pobl Cymru drosto naw mis yn ôl.
Mae’r £16 miliwn sydd ar gael heddiw drwy Fformiwla Barnett yn ychwanegol at y setliad mwyaf erioed gwerth £21 biliwn a gyhoeddwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru yng Nghyllideb yr Hydref diwethaf, gan roi hwb i wariant ar wasanaethau cyhoeddus fel y GIG, ac mae rhestr aros eisoes wedi bod yn disgyn yng Nghymru.
Rydym wedi gwneud yn siŵr na fydd unrhyw deulu yng Nghymru’n talu ceiniog yn fwy o dreth yn eu cyflogau ac rydym wedi codi’r isafswm cyflog a’r cyflog byw i hyd at 140,000 o weithwyr yng Nghymru.
Rydyn ni’n creu degau o filoedd o swyddi newydd drwy Barthau Buddsoddi Cymru, Porthladdoedd Rhydd a drwy brosiectau twf lleol a mewnfuddsoddi. Bydd buddsoddiad heddiw mewn amddiffyn hefyd yn rhoi hwb i’r diwydiant yng Nghymru. Ac rydyn ni wedi darparu bargen well i weithwyr dur Cymru ac, am y tro cyntaf, £25m i gadw tomennydd glo Cymru’n ddiogel.
Mae’r Datganiad y Gwanwyn hwn yn rhoi hwb i dwf economaidd, yn amddiffyn pobl sy’n gweithio ac yn cadw ein gwlad yn ddiogel.”
Amddiffyn
Rydym yn mynd ymhellach ac yn mynd ati’n gyflymach i warchod ein diogelwch gwladol a manteisio i’r eithaf ar y potensial o dwf economaidd yn sector amddiffyn y DU.
- Rydym yn cynyddu’r gyllideb amddiffyn o £2.2 biliwn yn 2025-26, gan gynyddu’r gwariant ychwanegol ar amddiffyn i fwy na £5 biliwn ers Cyllideb yr Hydref.
- Mae hyn yn codi gwariant ar amddiffyn i 2.36% y flwyddyn nesaf a bydd yn cael ei fuddsoddi mewn gosod Arfau Ynni Cyfeiriedig ar longau’r Llynges Frenhinol bum mlynedd yn gynt na’r disgwyl, darparu cartrefi gwell i deuluoedd milwrol a moderneiddio Safle Llynges Ei Fawrhydi yn Portsmouth.
- Neilltuwyd isafswm o 10 y cant ar gyfer gwariant ar gyfarpar gyda thechnolegau datblygol fel dronau a systemau awtonomaidd, technolegau â defnydd deuol, a galluoedd a bwerir gan ddeallusrwydd artiffisial, fel bod gan filwyr Prydain yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ymladd ac ennill mewn rhyfeloedd modern.
- Rhoi’r dechnoleg newydd hon yn nwylo ein lluoedd arfog yn gyflymach drwy leihau biwrocratiaeth, gydag uned newydd Arloesi Amddiffyn y DU yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn arwain ymdrechion i ddod o hyd i dechnoleg addawol a sicrhau bod y rhain yn cyrraedd y rheng flaen yn gyflym, gan gryfhau sector technoleg y DU a chynyddu buddsoddiad preifat.
- Creu prosesau caffael pwrpasol ar gyfer gwahanol fathau o offer milwrol, gan ddysgu gwersi o’n cefnogaeth gyflym i Wcráin i gymell targedau amser cyflymach ar gyfer rhoi tanciau, awyrennau ac offer hanfodol eraill newydd ar waith ar gyfer rhyfela modern.
- Mae’r llywodraeth hon yn benderfynol o drawsnewid y sector amddiffyn i fod yn beiriant ar gyfer twf drwy ganolbwyntio’r buddsoddiad hwn ar y meysydd hynny sy’n rhoi hwb i gapasiti cynhyrchiol yr economi, fel buddsoddi mewn arloesi a thechnolegau newydd. O ganlyniad i’r cynnydd mewn gwariant ar amddiffyn i 2.5%, mae’r llywodraeth yn amcangyfrif y gallai hyn arwain at GDP o tua 0.3% yn uwch yn y tymor hir, sy’n cyfateb i tua £11 biliwn o GDP yn arian heddiw.
- Bydd buddsoddiad y llywodraeth mewn amddiffyn hefyd yn cefnogi ei chenhadaeth fwyaf blaenllaw, sef sicrhau twf economaidd. Bydd dinasyddion y DU yn cael eu diogelu rhag bygythiadau gartref ar yr un pryd â chreu amgylchedd sefydlog lle gall busnesau ffynnu, a chefnogi prentisiaethau a swyddi medrus iawn ledled y DU.
Twf
Hybu twf economaidd yw prif genhadaeth Llywodraeth y DU, er mwyn i ni allu rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl sy’n gweithio ar draws pob rhan o’r DU.
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y cynllun hwn ar gyfer twf yng Nghymru, gan gynnwys cadarnhau ffocws Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint ar weithgynhyrchu uwch i ddenu gwerth £1 biliwn o fuddsoddiad a chreu hyd at 6,000 o swyddi; a £1.5 biliwn o fuddsoddiad uniongyrchol gan Lywodraeth y DU mewn prosiectau sy’n cefnogi twf ledled Cymru.
Mae Llywodraeth y DU yn gadarn ei chefnogaeth i’r cymunedau dur. Drwy Fwrdd Pontio Tata Steel Port Talbot, mae’n darparu gwerth £80 miliwn i helpu gweithwyr, y gadwyn gyflenwi, busnesau lleol ac adfywio.
Bydd gweithredoedd y llywodraeth hon drwy gydol Cyllideb yr Hydref a Datganiad y Gwanwyn, os cânt eu cynnal, yn arwain at gynnydd o 0.6% yn lefel y GDP go iawn erbyn 2034-25.
Daeth yr OBR i’r casgliad bod y rheol sefydlogrwydd yn cael ei bodloni o £9.9 biliwn a bod y rheol buddsoddi yn cael ei bodloni o £15.1 biliwn. Mae’r ddwy reol yn cael eu bodloni ddwy flynedd yn gynnar, sy’n golygu mai dim ond benthyca ar gyfer buddsoddi y mae’r llywodraeth o 2027-28 ymlaen ac mae’r ddyled ariannol net yn gostwng.
Nid yw’r llywodraeth yn fodlon â ffigurau twf tymor byr, ac mae’n mynd ymhellach ac yn mynd ati’n gyflymach heddiw i wella hyn.
Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi buddsoddiad cyfalaf pellach o £13 biliwn dros oes y Senedd er mwyn mynd ymhellach o ran twf, ac mae hynny’n ychwanegol at y cynnydd o £100 biliwn a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref. Bydd hyn yn cyflawni’r prosiectau sydd eu hangen i ysgogi buddsoddiad preifat, hybu twf ac yn gwthio strategaeth ddiwydiannol fodern y DU yn ei blaen.
Gyda’i gilydd, mae’r buddsoddiad cyfalaf ychwanegol hwn yn gwrthbwyso’r arbedion bach ar wariant o ddydd i ddydd ac yn golygu y bydd cyfanswm gwariant adrannol yn cynyddu dros y pum mlynedd nesaf, o’i gymharu â’r cynlluniau yn yr hydref.
Diwygio
Mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o wneud y sector cyhoeddus yn fwy cynhyrchiol ac o wella gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n gweithio. Ond mewn byd sy’n newid, mae angen i ni fynd ymhellach a mynd ati’n gyflymach i sicrhau ein bod yn gallu darparu’r gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl sy’n gweithio yn poeni fwyaf amdanynt.
Mae’r llywodraeth wedi dangos ei hymrwymiad i wneud y penderfyniadau anodd sydd eu hangen i sbarduno effeithlonrwydd a diwygio’r wladwriaeth – lleihau aneffeithlonrwydd a dyblygu biwrocrataidd; a rhoi diwedd ar wariant gwastraffus gan y llywodraeth drwy ganslo miloedd o gardiau credyd y llywodraeth.
Mae cael mwy o bobl i mewn i swyddi hefyd yn ganolog i genhadaeth y llywodraeth o ran twf. Mae’r system les hon wedi methu ac yn siomi pobl drwy ofyn iddynt brofi’r hyn na allant ei wneud, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn y gallent ei wneud gyda’r cymorth iawn – mae’n caethiwo pobl oherwydd bod ofn arnynt roi cynnig ar waith, ac oherwydd diffyg cefnogaeth a chymhellion ariannol gwael.
Bydd y system nawdd cymdeithasol bob amser yn gwarchod y rhai hynny na allant fyth weithio, a dyna pam y mae’r llywodraeth hon yn cynnig premiwm ychwanegol a fydd yn diogelu eu hincwm. A bydd yn dod â diwedd i’r drefn o ailasesu pobl sydd â’r cyflyrau gydol oes mwyaf difrifol i roi urddas a sicrwydd iddynt.
Helpu mwy o bobl i gael gwaith yw un o nodau canolog y diwygiadau hyn, a dyna pam mae’r llywodraeth yn mynd i’r afael â chymhellion i fod yn segur drwy ddiddymu’r WCA, ail-gydbwyso Credyd Cynhwysol, a buddsoddi mwy mewn cymorth cyflogaeth.
Byddwn bob amser yn cefnogi’r rheini sydd â chyflyrau iechyd tymor hir drwy’r Taliad Annibyniaeth Bersonol, a fydd yn parhau i fod yn fudd-dal pwysig nad yw’n seiliedig ar brawf modd ar gyfer pobl anabl a phobl sydd â chyflyrau iechyd tymor hir. Ond bydd y diwygiadau hyn yn gwneud y system yn fwy penodol a chynaliadwy er mwyn sicrhau bod rhwyd ddiogelwch ar gael i’r rheini sydd ei hangen fwyaf.
Mae’r Canghellor wedi cadarnhau y byddwn yn creu Cronfa Trawsnewid gwerth £3.25 biliwn i gefnogi’r gwaith sylfaenol o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus, manteisio ar gyfleoedd technoleg ddigidol a Deallusrwydd Artiffisial (AI), a thrawsnewid darpariaeth rheng flaen i ryddhau arbedion i drethdalwyr yn y tymor hir.
Cyhoeddodd y Canghellor hefyd becyn o fesurau i gau’r bwlch treth, gan godi £1 biliwn y flwyddyn erbyn 2029-30. Amcangyfrifwyd fod bwlch treth y DU yn tua £40 biliwn yn 2022-23.
Edrych Ymlaen
Mae Datganiad y Gwanwyn yn adeiladu ar Gyllideb yr Hydref a’r penderfyniadau a wnaed ers hynny i sicrhau sefydlogrwydd i economi Prydain a sbarduno twf economaidd.
Bydd y llywodraeth yn nodi ei chynlluniau ar gyfer gwariant a diwygiadau allweddol i’r sector cyhoeddus yn yr Adolygiad o Wariant a fydd yn dod i ben ar 11 Mehefin 2025.