Change of https://www.gov.uk/guidance/defnyddio-r-cynllun-troi-treth-yn-ddigidol-ar-gyfer-treth-incwm

Change description : 2026-06-02 14:10:00: Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth – Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru i egluro bod angen i chi gyflwyno ffurflen dreth y flwyddyn flaenorol fel y byddech fel arfer, a beth mae angen i asiant ei rannu gyda chleientiaid.Mae’r adran ‘Os ydych yn anghytuno â’r cyfrifiad neu os oes gwall yn eich meddalwedd’ wedi’i diweddaru i nodi y dylech gysylltu â’ch darparwr meddalwedd yn gyntaf, ac pryd y byddai angen i chi gysylltu â CThEF.Mae’r adrannau ‘Os ydych yn gwirfoddoli i brofi Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm’ ac ‘Os nad yw’ch meddalwedd yn cefnogi cyflwyno’ch ffynonellau incwm eraill’ wedi’u tynnu. [Guidance and regulation]

Showing diff : 2026-05-19 06:24:44.018518509 +00:00..

Summary

Arweiniad ar gyfer unig fasnachwyr, landlordiaid ac asiantau ynghylch sut i ddefnyddio ffordd newydd CThEF o wneud Hunanasesiad.

Mae’r canllaw yn esbonio beth yw’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, a’r hyn sydd angen i chi ei wneud yn y flwyddyn gyntaf ar ôl i chi gofrestru.

Gallwch wneud un o’r canlynol:

  • defnyddio’r bar chwilio ar frig y dudalen a chwilio am rywbeth penodol yn y canllaw yn unig
  • gwirio drwy’r adrannau i ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Rhoi adborth i ni 

Mae angen eich help arnom i wella ac i wneud yn siŵr bod GOV.UK ar ei orau i chi. Gallwch adborth i ni am Ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i helpu i wneud GOV.UK yn well.

Contents

Update history

2026-06-02 14:10
Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth – Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru i egluro bod angen i chi gyflwyno ffurflen dreth y flwyddyn flaenorol fel y byddech fel arfer, a beth mae angen i asiant ei rannu gyda chleientiaid.Mae’r adran ‘Os ydych yn anghytuno â’r cyfrifiad neu os oes gwall yn eich meddalwedd’ wedi’i diweddaru i nodi y dylech gysylltu â’ch darparwr meddalwedd yn gyntaf, ac pryd y byddai angen i chi gysylltu â CThEF.Mae’r adrannau ‘Os ydych yn gwirfoddoli i brofi Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm’ ac ‘Os nad yw’ch meddalwedd yn cefnogi cyflwyno’ch ffynonellau incwm eraill’ wedi’u tynnu.

2026-05-19 07:24
Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth – Mae’r math o gynllun Benthyciad Myfyrwyr a Benthyciad Ôl-raddedig wedi’u hychwanegu at y rhestr ‘Gwybodaeth y bydd CThEF yn ei hychwanegu’.Mae buddiannau a dalwyd drwy’r gyflogres sydd ddim yn destun cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A wedi’u hychwanegu at y rhestr ‘Gwybodaeth y byddwch chi’n ei hychwanegu’.

2026-04-24 09:41
Cael eich meddalwedd yn barod – Mae cam 2, ‘Sut i awdurdodi’ch meddalwedd fel asiant’, wedi’i ddiweddaru i’w gwneud hi’n gliriach bod angen i chi ddefnyddio ID defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer cyfrif gwasanaethau asiant eich ffỳrm.

2026-04-02 14:13
Help a chymorth – Mae gwybodaeth ynghylch sut i gael help a chymorth ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 wedi’i hychwanegu.

2026-03-12 12:08
Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth – Maeʼr rhagarweiniad aʼr adran ʼAr ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Drethʼ wediʼu diweddaru i gynnwys cysylltiad at wybodaeth am gosbau iʼr rhai y mae gofyn iddyn nhw ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

2026-02-12 14:49
Cofrestru – Mae’r arweiniad ar awdurdodi eich meddalwedd wedi’i ddiweddaru i gynnwys gwiriad o bwy ydych chi, ynghyd â chysylltu eich meddalwedd â CThEF.

2026-01-29 15:59
Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth – Mae’r arweiniad wedi cael ei ddiweddaru i esbonio os ydych yn cael cyfran o’r elw o bartneriaeth fel partner unigol, y bydd angen i chi ychwanegu hon fel ffynhonnell incwm ar eich Ffurflen Dreth.

2026-01-07 16:26
Creu cofnodion digidol – Mae’r arweiniad ar gyfer creu cofnodion digidol wedi’i ddiweddaru er mwyn rhoi eglurhad dros gynnwys ‘treuliau’ mewn cofnodion. Mae hefyd yn egluro os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben ar 31 Mawrth, eich bod wedi dewis diweddariadau calendr i gyd-fynd â hyn yn eich meddalwedd cyn i chi anfon eich diweddariad chwarterol cyntaf.

2025-11-26 15:36
Anfon diweddariadau chwarterol – Mae arweiniad wedi’i ddiweddaru i egluro sut mae pwyntiau cosb yn gweithio os methir dyddiad cau ar gyfer anfon diweddariad.

2025-11-24 15:51
Os bydd eich amgylchiadau’n newid – Ychwanegwyd gwybodaeth am newid eich meddalwedd a newid eich asiant treth.

2025-09-29 14:08
Os bydd eich amgylchiadau’n newid – Mae’r arweiniad wedi’i ddiweddaru i gynnwys beth dylech chi ei wneud os ydych chi wedi cofrestru o’r blaen ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a’ch bod chi’n credu eich bod chi nawr wedi’ch cau allan o’r byd digidol.

2025-09-03 14:51
Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth – Mae’r wybodaeth wedi’i diweddaru i gadarnhau beth ddylai asiantau ei wneud os ydynt am gael mynediad at gofnodion digidol eu cleient, ac nad ydynt wedi bod yn creu cofnodion digidol i’w cleient.

2025-07-22 08:32
Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth – Cafodd yr arweiniad ei ddiweddaru i gadarn-hau y bydd angen i chi a CThEF ychwanegu gwybodaeth at eich Ffurflen Dreth yn eich meddalwedd cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth. Mae’r wybodaeth ganlynol hefyd wedi’i hychwanegu: y camau y bydd angen i chi eu dilyn yn eich meddalwedd i gyf-lwyno’ch Ffurflen Dreth neu Ffurflen Dreth eich cleient; a beth i’w wneud os yw’r wybod-aeth yn anghywir.

2025-07-09 15:32
Cofrestru – Diweddarwyd yr arweiniad i gynnwys gwybodaeth am ddewis mwy nag un asiant.

2025-05-28 09:07
Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth – Mae teitl y bennod wedi’i ddi-weddaru i adlewyrchu cynnwys y bennod yn well. Mae adran am ychwanegu ffynonellau incwm er-aill wedi’i hychwanegu a diwedd-arwyd gwybodaeth i gadarnhau y dylech gyflwyno’r wybodaeth am eich ffynonellau incwm eraill drwy’r feddalwedd o’ch dewis ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

2025-05-22 14:38
Cyflwyniad – Mae’r arweiniad wedi’i diweddaru i gadarnhau os oes gennych incwm cymhwysol dros £20,000 y bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, a bod y llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth i gadarnhau pryd y bydd angen i chi ddechrau defnyddio’r gwasanaeth ohono.

2025-05-02 14:46
Anfon diweddariadau chwarterol – Gan mai’r 7fed o’r mis yw’r dyddiad cau ar gyfer anfon diweddariadau chwarterol i CThEF, mae’r wybodaeth wedi’i diweddaru.

2025-04-16 07:42
Help a chymorth – Mae gwybodaeth wedi’i hailstrwythuro i wneud yn eglur yr opsiynau o ran cefnogaeth i’r rheiny sydd wedi cofrestru a’r rheiny sydd heb gofrestru. Mae manylion y tîm cymorth i gwsmeriaid penodedig (a oedd yn yr adran ‘Ar ôl i chi gofrestru’ yn flaenorol) wedi’i symud i’r adran hon. Mae cysylltiadau at ganllawiau cam wrth gam gwell ar gyfer unigolion neu asiantau wedi’u hychwanegu i helpu defnyddwyr ddeall sut i ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y drefn gywir.

2025-01-15 13:56
Cadarnhau eich sefyllfa Treth Incwm yn derfynol – Mae’r arweiniad wedi’i ddiweddaru i esbonio nad yw’n bosibl defnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF am weddill blwyddyn dreth 2024 i 2025 a blwyddyn dreth 2025 i 2026 sydd i ddod. Hefyd, mae’n rhoi gwybod i ddefnyddwyr beth i’w wneud os nad yw’r feddalwedd y maen nhw’n ei defnyddio ar hyn o bryd yn cefnogi cyflwyno ffynonellau incwm personol.

2025-01-09 13:12
Os bydd eich amgylchiadau’n newid – Adran newydd wedi’i hychwanegu.

2024-11-27 14:06
Anfon diweddariadau chwarterol – Mae gwybodaeth wedi cael ei hychwanegu ynghylch sut i ‘dal i fyny’ ar eich cofnodion digidol a’ch diweddariadau chwarterol yn ystod y flwyddyn dreth.